Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Caerwnon Park Residents Association ac ystyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor yn ystod Rhagfyr 2013.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddileu o Ddeddfwriaeth yr hawl sydd gan berchnogion parciau i fynnu comisiwn pan gaiff cartrefi mewn parciau eu gwerthu’n breifat, am nad ydynt yn rhan o’r broses werthu mwyach.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Brycheiniog a Syr Faesyfed
· Canolbarth a Gorllewin Cymru